12 Tachwedd 2023
Beth bynnag yw swydd eich breuddwydion, gallwch wireddu hynny yn Âé¶¹´«Ã½!
Os oes gennych gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol, y coleg yw’r man cychwyn ar gyfer gyrfa gyffrous. Gwyddom fod pawb yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd, ac efallai y byddai cwrs galwedigaethol ymarferol yn fwy addas i chi na rhaglen Safon Uwch academaidd. Dyna pam y mae cannoedd o fyfyrwyr fel chi yn ymuno â ni bob blwyddyn i droedio llwybr gyrfa eu breuddwydion trwy amrywiaeth o gyrsiau llawn amser, rhan-amser ac addysg uwch, yn ogystal â phrentisiaethau. Felly, pam na wnewch chithau hefyd deithio ar hyd llwybr Âé¶¹´«Ã½ er mwyn cyrraedd eich cyrchfan derfynol?
Efallai eich bod yn anelu at fod yn filfeddyg… wel, mae gan Gampws Brynbuga y cwrs perffaith i chi!
Os ydych yn breuddwydio am fod yn gynllunydd ffasiwn o fri… beth am ddilyn un o’n cyrsiau creadigol!
Neu os hoffech fod yn gogydd seren Michelin… mae’r union rysáit gennym yma yn Âé¶¹´«Ã½!
Gyda chymorth amrywiol i’ch helpu i lwyddo, o fewn dim o dro byddwch yn teithio tuag at yrfa eich breuddwydion. Bydd tîm Uchelgeisiau CG wrth law i’ch arwain a’ch helpu i ddod o hyd i leoliadau a phrofiad yn ystod eich cyfnod yn y coleg, ac fe fyddwch yn gadael gyda’r cymwysterau, y sgiliau a’r profiad gwerthfawr sydd mor bwysig i gyflogwyr. Felly, ni waeth be fo’ch uchelgais, llwyddwch yma yn Âé¶¹´«Ã½!
Porwch ein cyrsiau llawn amser
Ar ôl mwynhau dosbarthiadau peirianneg yn yr ysgol, dewisodd Charlie ddilyn prentisiaeth ymarferol, gan astudio HNC Peirianneg Electronig a Thrydanol Lefel 4 yng Nghampws Crosskeys tra’n gweithio yn . Beth am weld sut y llwyddodd Âé¶¹´«Ã½ i helpu Charlie i ddilyn ei yrfa ddelfrydol:
“Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn dilyn gyrfa ymarferol. Fe wnaeth y cwrs Peirianneg Electronig yn Âé¶¹´«Ã½ fy ngalluogi i barhau gydag ochr theori fy addysg, ond yr hyn a wnaeth fy nenu ato mewn gwirionedd oedd y cymhwyster ymarferol a’r cyfleusterau nad oedd modd imi gael gafael arnyn nhw yn yr ysgol. Yr hyn a’m perswadiodd i astudio yn Âé¶¹´«Ã½ yn hytrach nag yn y chweched dosbarth neu fynd yn syth i swydd oedd y ffordd mae’r coleg yn paratoi’r dysgwyr ar gyfer eu gyrfaoedd penodol, fel trefnu digwyddiadau a lleoliadau a’m helpodd i gael fy nhroed dros riniog y byd peirianneg!
Dechreuodd siwrnai fy ngyrfa yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y coleg yn astudio’r cwrs peirianneg uwch. Credaf fod hyn wedi rhoi’r hyder imi ymgeisio’n llwyddiannus am brentisiaeth yn BAE Systems (un o bartneriaid Âé¶¹´«Ã½), lle’r ydw i’n gweithio ar brosiectau sy’n cysylltu fy mhrentisiaeth â’m gwaith coleg, fel dod o hyd i astudiaethau achos seiliedig ar waith.
Mae pob blwyddyn wedi cynnig cyfleoedd addysgol newydd imi. Rydw i’n wirioneddol fwynhau’r sesiynau ymarferol yn adeiladu cylchedau, yn ogystal â chael amgylchedd braf i ddysgu hanfodion theorïau trydanol. Rydw i wedi cael blas ar egwyddorion trydanol a pheiriannau trydanol gan fod y gwersi mor berthnasol i’r egwyddorion a’r offer trydanol a welaf yn y gwaith.
Fy uchelgais yn y tymor hir yw bod yn drydanwr medrus, uchel ei fri. Mae Âé¶¹´«Ã½ wedi fy mharatoi, ac mae’n parhau i’m paratoi trwy roi imi’r sgiliau trydanol perthnasol i ddod yn drydanwr cwbl gymwysedig a dilyn gyrfa fy mreuddwydion. Y peth gorau imi ei gyflawni hyd yn hyn yw cwblhau blwyddyn gyntaf fy HNC, sef y cymhwyster uchaf imi ei gwblhau hyd yn hyn. Diolch i’m prentisiaeth, rydw i wedi ei chael hi’n fwyfwy hawdd camu ymlaen, ac yn aml rydw i’n dysgu egwyddorion yn y coleg ac yn eu defnyddio yn fy ngwaith. Daw hyn â phleser mawr imi, yn ogystal â dysgu egwyddorion a sgiliau yn y gwaith y gallaf eu trosglwyddo i’m gwaith coleg.
Cyn dechrau yn y coleg, roeddwn i’n berson nerfus iawn ac yn aml roeddwn i’n cael problemau gyda gorbryder a diffyg hyder. Ond rydw i wedi cael cymorth gan y coleg bob cam o’r daith. Mae’r coleg wedi helpu i’m cyflwyno mor ddidrafferth â phosibl i’r diwydiant rydw i’n dymuno gweithio ynddo. Mae lleoliadau a theithiau gyrfaoedd wedi fy helpu i fagu hyder ac ennill sgiliau cyflogadwyedd – sef elfennau a’m helpodd i wneud cais am fy mhrentisiaeth.â€
Dilynwch yn ôl troed Charlie a LLWYDDWCH i gael gyrfa eich breuddwydion gyda Âé¶¹´«Ã½!
Ymunwch â’n digwyddiad agored nesaf er mwyn dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod â’n tiwtoriaid, trafod eich opsiynau, neu gael gwybodaeth am ein gwasanaethau cymorth – ac ymgeisiwch nawr!