
Campws Crosskeys
Mae gan gampws mwyaf Âé¶¹´«Ã½ gysylltiadau cadarn gydag ysgolion a busnesau lleol sy’n ei wneud yn ddewis poblogaidd ar gyfer myfyrwyr yn ardal Caerffili a thu hwnt. Mae’n cynnig dros 30 pwnc Safon Uwch, yn ogystal â chymwysterau gradd ac amrywiaeth eang o gyrsiau galwedigaethol.
Mae llawer o’n myfyrwyr Safon Uwch yn cyflawni graddau arbennig ac yn mynd ymlaen i astudio ym mhrifysgolion gorau’r DU. Os ydych eisiau hyfforddiant ar gyfer gyrfa alwedigaethol, byddwch yn dod o hyd i rai o’r cyfleusterau gorau yma. Mae hyn yn cynnwys offer safon ddiwydiannol ar gyfer ein cyrsiau gweithgynhyrchu uwch, Hwb Addysg Uwch ar gyfer y rheiny sy’n astudio cymwysterau lefel gradd a Chanolfan Ddysgu wedi ei chyfarparu ag ystafell mac, llyfrau, a mynediad at gyfnodolion ar -lein.
Mae Crosskeys hefyd yn gartref i Academi Rygbi Iau’r Dreigiau, fel bod myfyrwyr yn gallu datblygu eu sgiliau rygbi cyfochr â’u cwrs!
Chwilio am Gwrs
Âé¶¹´«Ã½
Campws Crosskeys
Heol Risca
Crosskeys
Caerffili
NP11 7ZA
Mae’r cyfleusterau ar Gampws Crosskeys yn cynnwys:

Theatr berfformio a llefydd ymarfer

Ystafelloedd recordio a golygu

Stiwdio Deledu

Canolfan moduro IMI (Sefydliad y Diwydiant Modurol)

Gweithdai ymarferol o safon diwydiant ar gyfer moduron a peirianneg

Salonau gwallt a harddwch masnachol sydd ar agor i'r cyhoedd

Morels - bwyty masnachol sydd ar agor i'r cyhoedd

Academi Rygbi Iau’r Dreigia

Neuadd chwaraeon a champfa

Llyfrgell gyfarparedig

Stiwdio ffotograffiaeth

Stiwdio celfyddydau perfformio a dawns

Stiwdios celf ar gyfer cerameg ac argraffu

Costa Coffee
Taith Rithwir 360
