Delyth Jewell AS yn cwrdd â dysgwyr o Âé¶¹´«Ã½
21 Hydref 2024
Yn ystod ymweliad â champws Crosskeys Âé¶¹´«Ã½, cafodd yr Aelod o’r Senedd, Delyth Jewell, gyfle i gwrdd â dysgwyr sy’n elwa o ddarpariaeth ddwyieithog newydd sydd wedi ei gefnogi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ìý
Mae’r ddarpariaeth newydd yn y meysydd Iechyd a Gofal, Gofal Plant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Busnes a Diwydiannau Creadigol. Ìý
Yn ystod yr ymweliad fe wnaeth Delyth Jewell AS gwrdd â Sorrell Butler, 18 oed sy’n dilyn cwrs Theatr Gerddorol lefel 3 yng Ngholeg Gwent. Mae Sorrell hefyd wedi ei dewis i fod yn un o lysgenhadon y Coleg Cymraeg. Ìý
Meddai: “Dwi wedi bod yn siarad Cymraeg ers i mi ddechrau yn yr ysgol leol fel merch fach, a roeddwn am barhau gyda hynny yn y coleg. Mae’r iaith wedi bod yn llawer o help i mi i fynegi fy hun mewn ffyrdd creadigol trwy ganu yn y coleg, ac rwy’n falch iawn o’r cyfleoedd hynny. Teimlaf yn hapus iawn i fod yn llysgennad y Coleg Cymraeg yng Ngholeg Gwent er mwyn rhannu’r cyfleoedd yma gyda phobl ifanc eraill yn y coleg.â€Ìý
Wrth gwrdd â’r dysgwyr meddai Delyth Jewell AS:
“Roedd yn bleser imi weld y gwaith gwych sy’n mynd ymlaen i hybu’r iaith yn y Coleg. ÌýÌý
“Mae’r Gymraeg yn perthyn inni gyd, ac mae gwaith y llysgenhadon ieuenctid mor bwysig i normaleiddio’r iaith ymysg y myfyrwyr, tra mae hefyd wedi bod yn bositif i weld y cynnydd yn y deunyddiau Cymraeg sydd ar gael (a’r cynnydd hefyd yn y nifer o fyfyrwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg. Llongyfarchiadau.â€Ìý
Yn ôl data diweddar Âé¶¹´«Ã½, mae 52% o’u dysgwyr sy’n siaradwyr Cymraeg yn cwblhau rhan o’u hastudiaethau yn ddwyieithog yng Ngholeg Gwent, o gymharu â dim ond 7% saith mlynedd yn ôl., compared to just 7% seven years ago.ÌýÌý

Yn ystod yr amser yma mae Âé¶¹´«Ã½ hefyd wedi manteisio ar raglenni datblygu staff a ariennir gan y Coleg Cymraeg, er enghraifft, sef cynllun i ddatblygu sgiliau Cymraeg staff mewn colegau addysg bellach, cynllun Llysgenhadon y Coleg Cymraeg, a hefyd wedi gwneud defnydd o’r adnoddau a gomisiynwyd gan y Coleg .
Yn ôl Arwel Rees-Taylor, Rheolwr Datblygu Dwyieithrwydd Âé¶¹´«Ã½:Ìý
“Rydw i wrth fy modd yn croesawu Delyth Jewell AS i’r coleg, ynghyd â’n partneriaid o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd wedi rhoi arweinyddiaeth strategol a chyllidol sy’n ein galluogi i gynnig yr hyn rydym bob amser wedi ei dymuno.Ìý
“Mae effaith y buddsoddiad yn amlwg yn nifer y dysgwyr sy’n cwblhau elfennau sylweddol o’u prif gyrsiau yn ddwyieithog erbyn hyn. Mae hyn yn golygu bod llawer mwy o ddysgwyr yn gallu defnyddio ac yn gwerthfawrogi eu sgiliau Cymraeg yng nghyd-destun eu meysydd astudio, a’u gyrfaoedd yn y dyfodol. Ìý
“Mae wedi bod yn daith eithriadol, ond mae’r gwaith yn parhau hyd nes y cawn yr un effaith ar draws yr holl feysydd.â€Ìý
Dr Ioan Matthews, Chief Executive of the Coleg Cymraeg said:ÌýMeddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg: “Mae’r Llywodraeth wedi adnabod twf mewn sgiliau dwyieithog ar draws y sector gyhoeddus fel blaenoriaeth, yn enwedig yn y prif feysydd dan sylw ac felly mae sicrhau bod modd dilyn cyrsiau galwedigaethol yn ddwyieithog yn hollbwysig.Ìý
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, ac mae’r Coleg Cymraeg yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda’r colegau addysg bellach, a’r Llywodraeth, i gyflawni ein gweledigaeth hirdymor bod darpariaeth Gymraeg a dwyieithog ar gael i bawb sy’n astudio a hyfforddi yng Nghymru, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg.â€â€¯Ìý