Yn gryno
Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i’r bobl hynny sydd eisiau cyfoethogi eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn adeiladu a datblygu o fewn y diwydiant. Bydd dysgwyr yn edrych ar adeiladu a chynnal a chadw, egwyddorion dylunio, dylunio gyda chymorth cyfrifiadur, deunyddiau, gwyddoniaeth ac economeg. Mae’r pynciau hyn yn cynnwys datblygiad cynaliadwy o fewn y diwydiant adeiladu, ac yn darparu'r technegau a phrosesau diweddaraf mewn modiwlau graffig sy'n seiliedig ar brosiect.
... Rydych eisiau gyrfa ym maes arolygu, mesur meintiau, Peirianneg Sifil, Technoleg Saernïol a Rheoli Adeiladu ar lefel Tystysgri Cenedlaethol Uwch (HNC).
... Rhai sydd â diddordeb brwd mewn adeiladu
... Rydych eisiau cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
... Rydych yn gweithio'n dda o fewn astudiaethau ymarferol a damcaniaethol
Darperir y cymhwyster hwn gan Brifysgol De Cymru ac mae wedi’i warantu gan Pearson (Edexcel) a’i gyflwyno gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant ar gampws Casnewydd Âé¶¹´«Ã½.
Ymhlith y modiwlau mae:
- Egwyddorion yr amgylchedd adeiledig
- Technoleg Adeiladu
- Cymwysiadau Digidol yn y maes Adeiladu
- Datblygiad a Chymdeithas
- Cyfraith yr Amgylchedd Adeiledig
- Economeg y maes Adeiladu
Ymhlith y prosiectau cyfredol mae dylunio a rheoli gwaith adnewyddu gwirfoddol i adeiladau a dylunio a manylion cynnal a chadw preswyl a chymorth cymunedol.
Mae'r sesiynau yn gymysgedd o ddarlithoedd, stiwdios dylunio ac arbrofi ymarferol, yn seiliedig ar sefyllfaoedd prosiect go iawn a phroblemau efelychol.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Yr Amgylchedd Adeiledig, gan fod yn gymwys i symud ymlaen i'r Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig yn Âé¶¹´«Ã½, neu ystod o raddau seiliedig ar Adeiladu ym Mhrifysgol De Cymru.
Astudio tuag at gymhwyster ym maes Adeiladu a gydnabyddir gan ddiwydiant sydd wedi’i gydnabod yn broffesiynol gan ICE, CIAT, ISE, RICE, CIOB, CIBSE a CIPHE.
Mae llwybrau llawn amser, rhan amser neu brentisiaeth ar gael.
Er mwyn ymuno â’r cwrs hwn, bydd arnoch angen:
- Trade experience with 1 year foundation Subsidiary diploma at level 3
- 2 Lefel A neu gyfwerth,
- BTEC Lefel 3 gyda Gradd Teilyngdod ac uwch
- Derbynnir NVQs a Diplomâu Crefft gyda lefel briodol o brofiad
- Cyfweliad gyda thiwtor i drafod sefyllfaoedd personol ac asesu’r lefel o brofiad a gyflawnwyd eisoes mewn maes cyffelyb.
Disgwylir i chi ymrwymo’n llawn i’ch astudiaethau a gallu parhau â’ch astudiaethau yn eich amser eich hun.
Y dilyniant naturiol o’r HNC yw cwblhau’r HND, sy’n cynnwys 8 modiwl pellach a gwblheir dros amserlen debyg o 1-2 flynedd. Mae yna opsiwn i gyflawni dau fodiwl yn ystod gwyliau’r haf rhwng yr HNC a’r HND er mwyn caniatáu hyblygrwydd pellach i chi yn eich amserlenni.
Mae llwybrau HNC yn cynnwys:
- Peirianneg Sifil
- Rheoli Adeiladu
- Gwasanaethau Adeiladau
- Tirfesur
- Arolygu Technoleg Saernïol
Fel arall, gwneir cysylltiadau â phrifysgolion lleol a gellir cynnal trafodaethau i fynd ar drywydd graddau anrhydedd ar ôl cwblhau’r HNC yn llwyddiannus. Gellir gwneud yr un cynnig os ydych yn cwblhau’r HND.
- 2 Lefel A neu gyfwerth,
- neu radd Teilyngdod ac uwch mewn BTEC Lefel 3.
- Derbynnir Diplomâu a NVQ Masnach gyda lefel briodol o brofiad.
- Cyfweliad gyda thiwtor i drafod amgylchiadau personol, ac asesu'r lefel o brofiad sydd gennych eisoes mewn maes cyffelyb.
Byddwch yn elwa o gael mynediad i liniadur er mwyn ymgyfarwyddo â’r broses o Gynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur.
Bydd angen i chi brynu pren mesur graddfa, pensiliau/ysgrifbinnau graffegol a deunydd ysgrifennu cyffredinol
Rydym yn cynnig yr HNC dros 1-2 flynedd, gydag 8 modiwl i’w cwblhau. Mae dyddiau astudio ar brynhawniau Mawrth ac Iau yn eich galluogi i gwblhau’r cwrs o fewn blwyddyn, ond gellir addasu ar gyfer sefyllfaoedd personoledig
