Yn gryno
Gan ddefnyddio cyfrifiadura uwch o'r radd flaenaf a'r technolegau realiti rhithwir diweddaraf, mae'r cwrs hwn yn cynnig profiad ymarferol a chyfle i ddatblygu'r sgiliau i'ch helpu chi i gadw ar flaen y gad yn y diwylliant hwn sy'n datblygu'n sydyn.
........Oes gennych ddiddordeb brwd mewn gemau cyfrifiadur
........Ydych chi'n greadigol ac yn gweithio'n galed
........Hoffech symud ymlaen i addysg uwch yn y maes hwn
Mae'r diwydiant gemau cyfrifiadur yn faes sy'n datblygu'n sydyn, gan gynnig nifer o gyfleoedd. Bydd y cymhwyster hwn yn eich caniatáu i arbenigo mewn agweddau creadigol, artistig a thechnolegol ar gynhyrchu gemau digidol. Trwy ddysgu ymarferol byddwch yn archwilio pob cam o'r broses ddatblygu gemau, gan gynnwys creu celf gysyniadol, animeiddio 2D a 3D a sgriptio o fewn peiriant gêm.
Cewch eich asesu drwy waith cwrs (a gyflwynir drwy gydol y flwyddyn). Dyma'r cymwysterau a gyflawnir:
- Diploma Lefel 2 mewn Dylunio a Datblygu Gemau Digidol
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau sgiliau - Sgiliau cyflogadwyedd
- Saesneg a Mathemateg
Dylech hefyd allu defnyddio eich gwybodaeth, sgiliau a barn i gychwyn a chwblhau tasgau a gweithdrefnau lled-gymhleth (o fewn terfynau). Mae hyn yn cynnwys gallu mynd i'r afael â phroblemau gyda lefel o annibyniaeth. Rydych angen bod yn ymwybodol o safbwyntiau a dulliau gwahanol o fewn eich maes astudio neu waith. Bydd disgwyl i chi ymrwymo pum diwrnod yr wythnos o astudio, sy'n cynnwys addysgu'r elfen wybodaeth o'r cymwysterau yn y coleg, a diwrnodau/blociau lleoliad gwaith ar gyfer yr elfen gymhwystra o'r cymwysterau.
Diploma UAL Lefel 3 mewn dylunio Gemau: Mae'r cymhwyster hwn yn darparu diploma Lefel 2 ac yn cefnogi eich dilyniant i addysg bellach mewn pwnc sydd yn ymwneud â'r maes dylunio gemau megis Diploma UAL mewn Dylunio Gemau Lefel 3 yn Âé¶¹´«Ã½.
Prifysgol: Ar ôl symud ymlaen o Ddiploma UAL Lefel 3 mewn Dylunio Gemau, bydd y cymhwyster hwn yn darparu pwyntiau dariff UCAS ac yn eich cefnogi wrth i chi symud ymlaen i addysg bellach mewn pwnc sydd yn ymwneud â'r maes dylunio gemau megis y Radd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau yn Âé¶¹´«Ã½.
Cyflogaeth: Wedi cwblhau'r cymwysterau hyn, gallech symud ymlaen i swyddi amrywiol, yn dibynnu ar eich llwybr dewisol. Mae opsiynau gyrfa yn cynnwys dylunydd gemau, modelwr 3D, animeiddiwr 2D/3D, peiriannydd dev-ops, rhaglennydd gemau, arlunydd gemau, dylunydd lefel neu arlunydd effeithiau gweledol.
Successful completion of these qualifications will allow you entry to progression routes such as:
- Addysg Uwch
- Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau
- Addysg Uwch mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau
- Cyflogaeth yn y diwydiant gemau
- Cyfleoedd gyrfa posibl yn y cyfryngau: Modelwr 3D, arlunydd gwead, artist cysyniad, artist arweiniol, artist rigio, animeiddiwr, artist goleuo a rendro, ysgrifennydd copi naratif, rheolwr cynnyrch, rheolwr/cynhyrchydd prosiect (gemau), profwr QA, artist technegol, cynhyrchydd cynorthwyol, peiriannydd sain, cyfarwyddwr creadigol, peiriannydd 'dev-ops', cynhyrchydd allanol, dylunydd gemau, datblygwr gemau, rhaglennydd gemau, artist gemau, rhaglennydd arweiniol, dylunydd lefelau, golygydd lefelau, animeiddiwr 3D / 2D, artist goleuo ac amgylchedd, peiriannydd sain, artist effeithiau gweledol
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg