Âé¶¹´«Ã½

  • Rhan Amser

BPEC Nwy ACS

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Adeiladu
Dyddiad Cychwyn
16 Mawrth 2026
Hyd
5 days
Dull Astudio
Rhan Amser

Yn gryno

Mae’r diwydiant nwy domestig wedi ei reoleiddio’n llym a darperir asesiad o dan y Cynllun Ardystio Achrededig (ACS). Mae Canolfan Nwy y coleg yn ganolfan wedi ei chymeradwyo gan BPEC sy’n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau nwy domestig sy’n ddelfrydol ar gyfer plymwyr profiadol. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i gofrestru â Gas Safe.

...y rhai sydd wedi cwblhau rhaglen ddysgu reoledig berthnasol

...y rhai sydd angen ailasesiad

Mae'r Coleg yn cynnal amrywiaeth eang o asesiadau. Mae tystysgrifau'n ddilys am bum mlynedd ac ar ôl hynny mae angen ailasesiad. Nid yw hyfforddiant yn rhagofyniad ar gyfer ailasesu, ond gall y coleg ei ddarparu ar gais. Er mwyn cwblhau asesiadau cychwynnol, rhaid i chi feddu ar dystysgrif i ddangos eich bod wedi cwblhau rhaglen ddysgu a reolir berthnasol.

Byddwch yn cael eich asesu ar eich gallu i wneud gwaith nwy yn ddiogel yn yr adrannau canlynol:

  • CCN1 – Diogelwch nwy domestig craidd, sy’n cynnwys CPA1 (dadansoddiad o berfformiad hylosgiad, nwy naturiol a nwy petrolewm hylifol)

Sylwer fod yn rhaid i ymgeiswyr fod wedi cyflawni CCN1 cyn cwblhau asesiad ar y canlynol:

  • CENWAT – Gosod, cyfnewid, comisiynu, datgysylltu, gwasanaethu, atgyweirio a dadansoddi gwres canolog nwy domestig a boeleri a chylchredwyr dwr poeth, boeleri cyfunol, gwresogyddion dwr stôr a gwresogyddion dwr ebrwydd.
  • CKR1 – Gosod, cyfnewid, gwasanaethu, atgyweirio, dadansoddi a chomisiynu dyfeisiadau coginio nwy domestig
  • HTR1 - Gosod, cyfnewid, gwasanaethu, atgyweirio, dadansoddi a chomisiynu tannau nwy agored, cytbwys a ffan gyda ffliw a gwresogyddion wal domestig
  • MET1/2 – Gosod, cyfnewid, tynnu a chomisiynu mesuryddion nwy domestig
  • CMDDA1 – Profi perfformiad Carbon monocsid a hylosgiad gyda dadansoddwyr nwy symudol electronig, ac ymchwiliad manwl o ddyfeisiadau

Ar ôl i chi gwblhau Diogelwch Nwy Domestig Craidd CCN1 cewch symud ymlaen i’r dyfeisiadau domestig uchod a byddwch hefyd yn gymwys i ymgymryd â’r gwaith o newid o nwy domestig i LPG domestig:

CONGLP1PD Newid nwy domestig i LPG domestig ar gyfer anheddau parhaol

CONGLP1LAV Newid nwy domestig i LPG domestig ar gyfer llety hamdden

CONGLP1RPH Newid nwy domestig i LPG domestig ar gyfer cartrefi parciau preswyl

HTRLP2 Tannau nwy ffliw caeedig

I gofrestru ar gyfer y cwrs hwn bydd rhaid i chi gael naillai:

  • Mae gennych dystysgrif ACS gyfredol ac mae angen ailasesiad arnoch

neu

  • Feddu ar dystysgrif ACS sydd wedi dod i ben (os yw dros 12 mis, bydd angen asesiad cychwynnol arnoch)

neu

  • Mae eich Tystysgrif ACS wedi dod i ben (o fwy na 12 mis) ac mae arnoch chi angen asesiad cychwynnol

Mae ffioedd y cwrs fel a ganlyn:

Domestig

Cychwynnol (asesiad yn unig)

CCN1

£705

Bydd pob offeryn yn costio £335 yr asesiad a bydd yn cymryd 0.5 diwrnod ychwanegol yr asesiad.

Ail-asesu (Asesiad yn unig)

CCN1

£480

Bydd pob offeryn yn costio £175 yr asesiad a bydd yn cymryd 0.5 diwrnod ychwanegol yr asesiad.

Bydd gan ymgeiswyr ar gyfer ail-asesu yr opsiwn i brynu llawlyfr hyfforddiant diweddaraf am £49.50

Newid o nwy domestig i LPG domestig

Ail-asesu yn unig (dim hyfforddiant)

CONGLP1PD

£75

CONGLP1LAV, CONGLP1RPH

£150

HTRLP2

£75 (Ffi ar gyfer asesu ar yr un pryd â naill ai CONGLP1PD, CONGLP1LAV neu CONGLP1RPH)

Female Construction student

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
NCCE1969AA
Amser Dechrau
09:00
Hyd
5 days
Amser Gorffen
16:00
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiau
Monday to Friday

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy