Âé¶¹´«Ã½

En

Gradd Sylfaen Artist-Ddylunydd Gwneuthurwr

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
22 Medi 2025

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol. Yn gyffredinol, dylai ymgeiswyr 18-21 oed fod â lleiafswm o 3 TGAU (gradd C neu uwch) sy'n cynnwys Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg neu bwnc Gwyddonol. Yn ogystal â chymhwyster Lefel 3 fel Diploma Cenedlaethol BTEC neu Lefelau A sy'n gyfwerth â neu'n uwch na 48 pwynt UCAS. Cyfrifiannell tariff UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator Croesewir myfyrwyr aeddfed (21+ oed), a bydd ceisiadau'n cael eu trin yn unigol. Er nad oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol, mae diddordeb yn y pwnc ac awydd ymroddedig i ddysgu yn hanfodol.

Yn gryno

Bydd y Radd Sylfaen Artist-Ddylunydd Gwneuthurwr yn eich addysgu sut i ddatblygu'n greadigol eich arddull eich hun, gan adlewyrchu'r ffordd ddyfeisgar yr ydych yn gweld y byd sy'n newid yn gyson, ac yn cyfathrebu ag ef.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych ddawn greadigol
... Oes gennych sgiliau a diddordeb mewn dylunio, crefft a chreu
... Ydych eisiau datblygu eich sgiliau i symud ymlaen i yrfa mewn darlunio, crefft a chreu

Beth fyddaf yn ei wneud?

Creu sydd wrth galon y cwrs GS Artist-Ddylunydd Gwneuthurwr. Byddwch yn magu profiad ymarferol gyda deunyddiau megis metelau, gwydr a chlai i goed a thecstilau. Byddwch yn defnyddio technegau traddodiadol ynghyd â'r dechnoleg ddiweddaraf i ddefnyddio dulliau newydd a gwreiddiol o greu.

Byddwch yn datblygu eich arddull unigryw eich hun ac yn ystyried ble mae eich gwaith wedi’i leoli o fewn ymarfer creadigol. Byddwch yn dysgu oddi wrth artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr gweithredol proffesiynol, gan rannu eu brwdfrydedd a chaffael sgiliau newydd.

  • Clai -Modelu, taflu, gwneud mowldiau, castio, tanio a gwydro
  • Metel - gwaith gofaint bychan mewn copr, pres ac arian, weldio, sodro ac enamlo
  • Pren - Gwaith saer, argaenwaith
  • Gwydr - Castio, ymdoddi, slympio a pheintio
  • Tecstilau - Pwytho, printio ac adeiladu
  • Ffabrigiad Digidol - argraffu 3D, torri â laser, modelu digidol 3D, sganio, pwytho digidol, tecstilau print digidol

Byddwch yn dysgu i weithio'n annibynnol a chreadigol mewn amrywiaeth o gyd-destunau, wrth i ni gefnogi eich brwdfrydedd tuag at ddylunio, gweithgynhyrchu, marchnata a gwerthu eich gwaith eich hun.

Byddwn yn eich cefnogi wrth i chi ddatblygu eich sgiliau proffesiynol ym mhob aseiniad, gan gynnwys sgiliau datrys problem yn greadigol, rheoli prosiectau, a gweithio i friff a chwblhau gwaith i derfyn amser. 

Drwy hunan-fyfyrio parhaus, byddwch yn datblygu ac yn adnabod cryfderau personol, gan eich helpu i gydnabod sgiliau trosglwyddadwy a sut y byddant yn ddefnyddiol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.

Mae'r modiwlau yn cynnwys:

Blwyddyn 1

Pwnc: hyfforddiant sylfaenol – 40 credyd

Pwnc: prosiect unigol - 20 credyd

Byddwch yn dechrau eich blwyddyn gyntaf â gweithdai a fydd yn eich cyflwyno i’r deunyddiau, y prosesau a’r cyfarpar y bydd eu hangen arnoch ar gyfer ymarfer creadigol – o glai, tecstilau, pren, gwaith gofaint bychan, gwydr a ffabrigiad digidol. Yn ogystal, byddwch yn archwilio’r cysyniadau allweddol sydd yn ymarfer celf a dylunio drwy wneud.

Maes un: cydweithredu – 20 credyd*

Byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ddisgyblaethau eraill, artistiaid a chydweithio â myfyrwyr eraill i adeiladu ar eich profiad ac ehangu eich creadigrwydd – a defnyddio eich sgiliau a’ch mewnwelediad artistig i’w cymhwyso i’ch gwaith.

Cytser: cysyniad – 40 credyd

Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i fyd ehangach syniadau, theori ac astudiaethau cyd-destunol i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ymchwil academaidd a’ch gallu i feddwl yn feirniadol.  Byddwch yn canolbwyntio ar feysydd penodol o ddiddordeb mewn grwpiau astudio a byddwch yn ymgyfarwyddo â’r ymchwil traws-ddisgyblaethol cyffrous mewn celf a dylunio.

Blwyddyn 2

Pwnc: Creu – 40 credyd

Yn y modiwl hwn byddwch yn dechrau troedio tir newydd, llai cyffyrddus – yn cymryd risgiau ac yn arbrofi gyda phrosesau deunyddiol a thechnolegau newydd. Byddwch yn datblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol – o glai, tecstilau, pren a metel hyd at argraffu 3D, torri â laser. Drwy feirniadaeth cyfoedion, seminarau a thiwtorialau thematig, byddwch yn myfyrio ar eich cryfderau a’ch diddordebau artistig, ac yn cyflwyno’ch ymchwil nôl i’r grwp.

Maes Dau: archwilio – 40 credyd*

Byddwch yn ehangu eich profiadau â phrosiectau heriol a fydd wedi’u dylunio i’ch annog i archwilio ac i arbrofi y tu allan i’ch disgyblaeth benodol. Bydd y cyfle gweddnewidiol hwn yn arwain at feddwl newydd ac at bethau newydd - ac yn agor pob math o bosibiliadau yn y dyfodol. Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau cyffrous a fydd yn eich herio mewn ffyrdd newydd.

Cytser: Golwg feirniadol – 40 credyd

Drwy fwrw golwg feirniadol dros lenyddiaeth, cyfnodolion ac arddangosfeydd, byddwch yn hogi eich gallu i roi eich ymarfer dylunio o fewn cyd-destun. Cewch gyfleoedd hefyd i ryngweithio gyda myfyrwyr a staff a threiddio mwy i’r meysydd a fydd o ddiddordeb i chi.

Byddwch yn mwynhau rhaglen amrywiol o deithiau diwylliannol ac ysbrydoledig, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan roi i chi'r cyfle i ymweld ag orielau a lleoliadau perthnasol eraill a fydd yn llywio ac yn gwella eich gwaith.

Byddwch yn rhan o amgylchedd creadigol amrywiol sy'n rhoi mynediad i chi at bob math o gyfleusterau i safon y diwydiant, gan elwa o offer traddodiadol ac uwch dechnoleg. Yn ystod y ddwy flynedd bydd gennych eich man gweithio eich hun o fewn y stiwdio ddarlunio a'r cyfle i weithio ag ystod o weithdai a chyfleusterau arbenigol eraill yn y coleg.

Cewch eich asesu drwy waith cwrs a phortffolio. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus byddwch yn derbyn Gradd Sylfaen Artist-Ddylunydd Gwneuthurwr wedi'i achredu gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Bydd hwn yn cael ei gyflwyno ar ein Campws Crosskeys.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Dylech allu rheoli eich amser eich hun, bod yn ymwybodol o'ch rhaglen astudio, mynychu ac ymgysylltu yn eich dosbarthiadau, bod â synnwyr o bwrpas bob amser a gofyn am gymorth pryd bynnag y byddwch ei angen.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd y cwrs hwn yn rhoi i chi'r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ar gyfer gyrfa mewn darlunio, crefft a chreu neu symud ymlaen i flwyddyn olaf y cwrs gradd Artist-Ddylunydd: Gwneuthurwr BA (Anrh) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cwrs hwn wedi ei ryddfreinio gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Gall y cwrs yma cael ei hastudio'n llawn amser neu rhan amser.

Gorfodol

Pecyn Deunyddiau i Artist-Ddylunydd Gwneuthurwr: £i'w gadarnhau

Trip Llundain: £50

Costau Argraffu Arddangosfa: £30 - £50

Costau Teithio: £100

Ddim yn orfodol

Trip Rhyngwladol: £400 - £1000

Ble alla i astudio Gradd Sylfaen Artist-Ddylunydd Gwneuthurwr?

CFDG0069AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 22 Medi 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr