YMCA Tystysgrif mewn Hyfforddi Campfa Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon a Ffitrwydd
Lefel
2
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£150.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2025
Dydd Llun a Dydd Mawrth
Amser Dechrau
09:15
Amser Gorffen
16:30
Hyd
16 wythnos
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cymhwyster hwn, fodd bynnag, bydd angen cael cyfweliad gyda Thiwtor y Cwrs.
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio’n arbennig ar gyfer unigolion 19+ oed ac mae’n seiliedig ar Safonau Hyfforddwr y Gampfa a ddatblygwyd gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMPSA), ochr yn ochr â chyflogwyr yn y diwydiant.Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gydnabod fel y gofyniad isafswm ar gyfer ennill cyflogaeth yn y diwydiant.
Yn gryno
Ydych eisiau dilyn gyrfa fel hyfforddwr ffitrwydd? Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r dechrau perffaith ichi, yn addysgu'r sgiliau a gwybodaeth theori ac ymarferol ichi ddod yn hyfforddwr cymwys.
Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i gael gwaith yn y dyfodol mewn campfeydd/clybiau iechyd yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Bydd y rôl yn cynnwys cynnal ymgynghoriadau campfa, ymsefydlu ac ysgrifennu rhaglenni campfa sy'n gysylltiedig ag iechyd ar gyfer cleientiaid.
Dyma'r cwrs i chi os...
...Unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio yn y gampfa/clwb iechyd
...Pobl sydd â diddordeb mewn ffitrwydd ac iechyd
...ÌýY rhai sy'n mwynhau gweithio gyda phobl yn ddyddiol
...Unrhyw un sy'n dyheu am ddod yn Hyfforddwr Campfa.
Ìý
Ìý
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r cwrs yn mynd i'r afael â llu o fodiwlau, gan gynnwys:
- Anatomeg a Ffisioleg (arholiad)
- Iechyd, Diogelwch a Lles mewn Amgylchedd Ffitrwydd (gorfodol)
- Egwyddorion Ymarfer Corff, Ffitrwydd ac Iechyd (arholiad)
- Gwybod sut i gefnogi cleientiaid sy'n cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol (gorfodol)
- Cynllunio ac arwain ymarfer corff mewn campfa (ymarferol)
Bydd angen ichi fod yn hunan-gymhellol, gweithgar, prydlon ac ymrwymedig, yn frwd dros ddod yn hyfforddwr ffitrwydd cymwys ac yn benderfynol o lwyddo'r asesiadau ymarferol ac arholiadau theori, ynghyd ag ennill profiad ymarferol gwirfoddol mewn campfa ffitrwydd. Bydd angen ichi hefyd werthfawrogi bod y cwrs yn gofyn ichi ymrwymo i bresenoldeb a'r llwyth gwaith.
Ìý
Byddwch yn cael eich asesu gan ddefnyddio cyfuniad o arholiadau, unedau gorfodol a gwaith campfa, cyn eich dyfarnu â Thystysgrif Gwobr YCMA Lefel 2 mewn Hyfforddi Ffitrwydd (campfa). Yn dilyn y cwrs, gallwch ddod o hyd i waith mewn campfa ffitrwydd breifat neu gyhoeddus, neu symud ymlaen at Ddiploma Gwobr YMCA Lefel 3 mewn Hyfforddi Personol (yn ddibynnol ar brofiad).
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol, fodd bynnag, yn ddelfrydol dylech gael rhywfaint o brofiad o ymarferion yn y gampfa trwy ymarfer personol a dylai fod gennych rywfaint o ffitrwydd corfforol. Dylai dysgwyr hefyd fod â sgiliau cyfathrebu ar lefel 2, y gellir eu datblygu yn ystod y cwrs.
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Cyflogaeth mewn campfa ffitrwydd gyhoeddus neu breifat
- Diploma Lefel 3 YMCA mewn Ymarfer Corff a Ffitrwydd: Hyfforddwr Personol
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CPCE2126AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr