{"id":7578,"date":"2024-08-15T14:28:37","date_gmt":"2024-08-15T13:28:37","guid":{"rendered":"https:\/\/coleg-gwent-wp.test\/news\/student-success-stories-2024\/"},"modified":"2025-12-11T12:06:06","modified_gmt":"2025-12-11T12:06:06","slug":"student-success-stories-2024","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/news\/student-success-stories-2024","title":{"rendered":"Llongyfarchiadau i ddosbarth 2024"},"content":{"rendered":"
Llwyddodd 67% o fyfyrwyr y coleg i ennill graddau A*-C Safon Uwch<\/a> tra bod mwy na 1,000 o ddysgwyr wedi cwblhau cymhwyster BTEC<\/a> \u2013 gan alluogi dysgwyr i gymryd eu camau cyntaf i fyd addysg uwch<\/a> a gyrfaoedd newydd.<\/a>.<\/p>\n Llongyfarchiadau i\u2019r holl fyfyrwyr sydd wedi gweithio\u2019n galed i gyflawni eu nodau a gwireddu eu breuddwydion.<\/p>\n Dyma rai o\u2019n straeon llwyddiant:<\/strong><\/p>\n Campws:<\/strong> Parth Dysgu Torfaen Y flwyddyn cyn imi fynd i\u2019r coleg roeddwn i\u2019n dioddef o orbryder, felly roeddwn i\u2019n bryderus iawn ynghylch dechrau yn y coleg, ond ar \u00f4l imi gwrdd \u00e2\u2019r t\u00eem iechyd meddwl fe dawelwyd fy meddwl yn syth. Yn ystod y 2 flynedd y bues i\u2019n astudio yno, doeddwn i ddim yn sicr beth yr oedd arna i eisiau ei wneud, ond trwy siarad \u00e2 thiwtoriaid, mynd i ddyddiau agored a chael ymwelwyr \u00e2\u2019r coleg, fe ges i lond gwlad o gyfleoedd na fyddwn i byth wedi\u2019u cael heb Goleg Gwent.<\/p>\n Erbyn hyn mae gen i brentisiaeth busnes gyda GE Aerospace, sy\u2019n gyfle gwirioneddol dda i mi ddechrau fy ngyrfa. Rydw i wedi cael cymaint o gefnogaeth gan fy nhiwtoriaid wrth iddyn nhw fy helpu i i baratoi ar gyfer y broses gyfweld. Roedd gallu defnyddio\u2019r llyfrgell yn y coleg hefyd wedi fy helpu i baratoi, gan fy mod i\u2019n gallu mynd ar y rhyngrwyd ac ymchwilio.<\/p>\n Campws:<\/strong> Campws Crosskeys Fe wnes i astudio cymdeithaseg ar gyfer TGAU a gwirioni\u2019n llwyr ar y pwnc, ac roedd arna i eisiau astudio rhagor arno. Ychydig iawn yr oeddwn i\u2019n ei wybod am seicoleg a throseddeg fel dewisiadau Lefel A ond pan es i ddiwrnod agored ar gampws Crosskeys fe ddangosodd y darlithwyr imi pa mor ddiddorol ydyn nhw a pha mor dda yr oedd y tri phwnc yn gweddu i\u2019w gilydd.<\/p>\n Ar \u00f4l astudio mae arna i eisiau parhau \u00e2 throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe, a dod yn dditectif gyda\u2019r heddlu gobeithio. Fe wnaeth Âé¶¹´«Ã½ fy helpu i sylweddoli gymaint o opsiynau oedd gen i ar gyfer fy nyfodol. Roedd pob darlithydd yn gallu fy nhywys wrth imi benderfynu ar ba yrfa yr oedd arna i eisiau ei dilyn a pha gyrsiau fyddai\u2019r rhai gorau er mwyn mynd \u00e2 fi i\u2019r cyfeiriad hwnnw. Y tu hwnt i hynny, fe ges i hefyd lawer iawn o gymorth o ran technegau adolygu, sgiliau ysgrifennu traethodau a threfnu, a chefnogaeth emosiynol. Rwy\u2019n awr yn teimlo\u2019n llawer mwy parod ar gyfer y brifysgol, o ran yr agweddau academaidd a\u2019r rhai cymdeithasol.<\/p>\n Campws:<\/strong> Parth Dysgu Torfaen Gan fy mod i wedi gorffen fy nghwrs, rwy\u2019n dechrau yn y Brifysgol ym mis Medi, yn astudio Bioleg ym Mhrifysgol Caerfaddon. Roedd pob un o fy nhiwtoriaid mor gefnogol. Pan ddechreuais i feddwl am wneud cais i brifysgolion Gr\u0175p Russell, fe wnaeth fy nhiwtoriaid fy annog i wneud hynny, gan gredu yn fy ngallu i gael cynigion ganddynt, hyd yn oed pan oeddwn i\u2019n ansicr am hynny fy hun.<\/p>\n Os oes gennych chi\u2019r amser i wneud y cwrs a\u2019ch bod chi eisiau cyrraedd prifysgol, yna mae\u2019r cwrs yma\u2019n berffaith.<\/p>\n Campws:<\/strong> Parth Dysgu Blaenau Gwent r \u00f4l gorffen fy Safon Uwch, rwy\u2019n gobeithio mynd i\u2019r Brifysgol i astudio S\u0175oleg ac yna dechrau gyrfa ym maes cadwraeth bywyd gwyllt. Trwy gydol fy nghyfnod yng Ngholeg Gwent, cefais lawer o gyfleoedd i ennill sgiliau a fyddai\u2019n helpu yn y Brifysgol. Er enghraifft, cefais fy ariannu i gymryd rhan yn rhaglen The Brilliant Club a oedd yn caniat\u00e1u i mi brofi dysgu yn null prifysgol gyda myfyriwr PhD ac argymhellwyd Cwrs Preswyl Biowyddorau Caergrawnt i mi lle roeddwn yn gallu cymryd rhan mewn ystod o ddarlithoedd Bioleg i ennill profiad a sgiliau.<\/p>\n I would definitely recommend Âé¶¹´«Ã½ for anyone considering it for their further education! The culture of my campus was supportive, collaborative and inspiring and helped me to feel confident during my time there and for the future<\/p>\n Campws:<\/strong> Parth Dysgu Blaenau Gwent Ar \u00f4l astudio yn y coleg, rwy\u2019n bwriadu dechrau fy ngradd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd. I mi, roedd Âé¶¹´«Ã½ yn allweddol wrth gynnig y cymorth yr oeddwn ei angen er mwyn cyrraedd yno. Fel rhywun oedd yn angerddol am yrfa yn y gyfraith o\u2019r eiliad y dechreuais i yn y coleg, roedd fy athrawon bob amser yn gefnogol ac wrth law os oedd gen i unrhyw gwestiynau am sut y gallwn i symud ymlaen yn yr yrfa hon. Ni fyddaf byth yn anghofio\u2019r awyrgylch croesawgar y mae Âé¶¹´«Ã½ wedi\u2019i ddarparu drwy gydol fy amser yma. O\u2019r ffeiriau croeso i\u2019r ffeiriau llesiant, roeddwn bob amser yn teimlo fy mod yn cael fy ngweld a fy nghlywed. Dim ots pa broblem oedd gen i, roedd wastad rhywun yna i gynnig datrysiad.<\/p>\n Nid yw Âé¶¹´«Ã½ erioed wedi teimlo fel lle addysg ond yn hytrach yn rhywle lle rwy\u2019n rhydd i feddwl drosof fy hun, ac yn cael fy annog i wneud hynny. Byddwn yn bendant yn argymell mynychu Âé¶¹´«Ã½<\/p>\n Campws:<\/strong> Parth Dysgu Blaenau Gwent Ar \u00f4l Coleg rwy\u2019n gobeithio mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio gradd Meistr mewn Peirianneg Fecanyddol gyda blwyddyn mewn diwydiant, yna rwy\u2019n gobeithio mynd i faes Fformiwla 1. Mae\u2019r coleg wedi fy helpu gymaint wrth baratoi ar gyfer hyn mewn addysg a sgiliau.\u202fY prif beth mae\u2019r coleg wedi\u2019i roi i mi baratoi ar gyfer fy nyfodol yw hyder. Rwy\u2019n credu bod fy nghyfnod yn y coleg wedi rhoi cymaint o hyder i mi ym mhob agwedd oherwydd yr amgylchedd cefnogol lle cewch eich annog i fynd ar drywydd unrhyw beth rydych yn ei ddymuno.<\/p>\n Byddwn yn annog pawb i ymddiddori a chymryd rhan mewn bywyd coleg. Cymerwch ran bob amser a gwnewch gais am bob cyfle oherwydd gallant agor cymaint o ddrysau a rhoi cymaint o brofiadau i chi. Dwi wedi gallu bod yn rhan o gymaint o bethau anhygoel yn y coleg drwy ymuno mewn gweithgareddau a dwi\u2019n credu ei fod yn gwneud eich profiad coleg gymaint yn fwy gwerthfawr.<\/p><\/blockquote>\n <\/div>\n <\/div>\n <\/div>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"featured_media":19239,"template":"","category":[66,10],"class_list":["post-7578","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-news","category-success-stories"],"pp_statuses_selecting_workflow":false,"pp_workflow_action":"current","pp_status_selection":"publish","pp_post_mime_type":"","acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7578","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7578\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":36106,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7578\/revisions\/36106"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19239"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7578"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/category?post=7578"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}Molly McAlorum<\/h2>\n
\nCwrs:<\/strong> Diploma Busnes (Lefel 3)
\nGraddau:<\/strong> Rhagoriaeth (D* D D)<\/p>\nBella Davison<\/h2>\n
\nCwrs:<\/strong> Lefel A Seicoleg, Lefel A Cymdeithaseg, Diploma Troseddeg, Bagloriaeth Sgiliau Uwch
\nGraddau:<\/strong> A* A* A A<\/p>\nKamal Shah<\/h2>\n
\nCwrs:<\/strong> Mynediad i AU Biowyddorau (Lefel 3)
\nGraddau:<\/strong> Pasio<\/p>\nKasia Tomsa<\/h2>\n
\nCwrs:<\/strong> Bagloriaeth Sgiliau Uwch, Lefel A Bioleg, Daearyddiaeth, Mathemateg
\nGraddau:<\/strong> A* A A C<\/p>\nRhianna Lewis<\/h2>\n
\nCwrs:<\/strong> Bagloriaeth Sgiliau Uwch, Lefel A Cyfraith, Hanes, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth<\/p>\nChloe Simmonds<\/h2>\n
\nCwrs:<\/strong> Bagloriaeth Sgiliau Uwch, Lefel A Mathemateg, Ffiseg, Mathemateg Bellach
\nGrades: A A B C<\/p>\n