Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich sgiliau gofal plant. Byddwch yn astudio unedau ar ymarfer gofal plant, twf a datblygiad, iechyd a diogelwch, chwarae a gweithgareddau creadigol, sydd yn gysylltiedig â deddfwriaethau cyfredol.
... Ydych am weithio gyda phlant a phobl ifainc
... Ydych am ddilyn cymwysterau pellach mewn disgyblaeth gysylltiedig
... Ydych am adeiladu ar wybodaeth a sgiliau cyfredol ym maes gofal plant.
Trwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn magu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifainc o enedigaeth hyd at 19 oed. Bydd yn cwmpasu ystod amrywiol o rolau swydd a meysydd galwedigaethol, gan eich paratoi ar gyfer gweithio mewn lleoliadau plant.
Cyfuniad o theori ac ymarfer yw’r cwrs. Byddwch yn treulio tridiau’r wythnos yn y coleg yn datblygu gwybodaeth ac elfennau damcaniaethol y cymhwyster, a dau ddiwrnod yr wythnos mewn lleoliad gwaith (ynghyd â lleoliadau ‘bloc’ lle bo angen) yn ennill profiad ymarferol o weithio gyda phlant a phobl ifainc.
Bydd y cwrs yn datblygu gwybodaeth bynciol a chewch eich asesu ar wahanol gymwyseddau’r Theori ac Ymarfer. Bydd rhan fawr o'r asesiad yn digwydd yn eich lleoliad gwaith, ond bydd hefyd yn ofynnol i chi gwblhau asesiadau ac arholiad ar ddiwedd y flwyddyn.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:
- Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant - CBAC/City & Guilds
- Lefel 2: Craidd (City & Guilds)
- Lefel 2: Theori ac Ymarfer (WJEC)
Byddwch hefyd yn ennill cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau megis:
- Hylendid bwyd
- Cymorth Cyntaf Pediatrig
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn gallu symud ymlaen i Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, CBAC/City & Guilds.
Byddwch hefyd yn barod i fynd i’r byd gwaith ac ennill cyflogaeth mewn rolau megis cynorthwyydd cyn-ysgol, cynorthwyydd meithrin, cynorthwyydd meithrinfa, gweithiwr gofal plant y tu allan i oriau ysgol neu gynorthwyydd Cylch Meithrin.
I gael mynediad i’r cwrs, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 4 cymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, i gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol mewn maes galwedigaethol perthnasol a gwblhawyd ar lefel Teilyngdod a chymhwyster TGAU gradd D mewn Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf neu gymhwyster Sgiliau Hanfodol mewn Rhifedd a Llythrennedd, gradd Pasio.
Bydd angen i ddysgwyr Lefel 1 sy’n symud ymlaen sy’n astudio yn Âé¶¹´«Ã½ ar hyn o bryd ennill gradd MM ar gyfer eu cwrs a dangos cynnydd ac ymgysylltu ar gyfer pynciau Sgiliau.
Rhaid i bob dysgwr gael gwiriad DBS boddhaol cyn dechrau'r cwrs. Rhaid i geisiadau DBS gael eu cynnal yn Âé¶¹´«Ã½.
Gwasanaeth Diweddaru DBS – bydd angen i unrhyw ddysgwyr sy’n rhan o’r Gwasanaeth Diweddaru DBS ar hyn o bryd alluogi i aelodau staff Âé¶¹´«Ã½ gael mynediad at eu cyfrif Gwasanaeth Diweddaru DBS.
Mae ymrwymiad a dibynadwyedd yn hanfodol