Âé¶¹´«Ã½

  • Rhan Amser
  • Lefel 2

NCFE CACHE Tystysgrif mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 2

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Dysgu ac Addysg
Hyd
34 wythnosau
Dull Astudio
Rhan Amser
Lefel
2
Ffioedd
Am ddim Gall gostyngiadau fod ar gael
£0.00 Ffioedd Dysgu

Gostyngiad o 50% ar gael i ddysgwyr sy’n derbyn Budd-dal sy'n Seiliedig ar Brawf Modd.

Gostyngiad o 100% ar gael i unigolion dan 19, yn ddibynnol ar addasrwydd cwrs.

£0.00 Ffioedd Eraill

Yn cynnwys cofrestriadau, ffioedd arholiadau ac unrhyw ddeunyddiau cwrs.

Sylwch, mae'r holl ffioedd a hysbysebir am flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod.

Yn gryno

Mae cymorth dosbarth mewn ysgolion yn hanfodol er mwyn helpu plant i gyflawni eu potensial llawn - ac os yw gweithio mewn rôl gefnogi yn apelio atoch chi, bydd y cwrs hwn yn rhoi ichi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

 

…Ydych chi am weithio gyda phlant neu oedolion ifanc mewn ystafell ddosbarth

…Ydych chi am weithio fell cynorthwyydd ystafell ddosbarth neu gynorthwyydd dysgu a chymorth

Mae’r cwrs yn cydnabod y gwaith cymorth hanfodol a wneir mewn ysgolion a cholegau; ac fe’i cynlluniwyd yn gymorth i ysgogi cynnydd a throsglwyddo ar draws gweithlu’r plant mewn ysgolion a cholegau. Byddwch yn cwblhau uned drwy gydol y flwyddyn, bydd rhai yn cael eu hasesu yn eich lleoliad ysgol/coleg a'r rhan fwyaf o unedau y byddwch yn eu cynhyrchu aseiniadau ysgrifenedig.

Mae’n datblygu gwybodaeth a fydd yn werthfawr i weithwyr gwirfoddol a gweithwyr sy’n cael eu talu, drwy astudio ystod o unedau sy’n ymwneud â gweithio gyda phlant mewn ystafell ddosbarth. Caiff bob uned ei hasesu ar wahân drwy nifer o waliau asesu gwahanol.

Bydd disgwyl i chi ennill profiad ymarferol o weithio mewn rolau sy'n cefnogi dysg disgyblion mewn ysgolion cynradd, uwchradd neu ysgolion ADY, yn ogystal â cholegau, am o leiaf un diwrnod yr wythnos fel cyflogai neu ar sail wirfoddol.

Os ydych chi'n astudio'n rhan-amser, yna mae'n bwysig eich bod yn trefnu eich lleoliad cyn cofrestru. Os ydych chi'n astudio'n llawn amser, yna byddwn ni'n trefnu eich lleoliadau i chi.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, y gallu i gymell eich hun a brwdfrydedd tuag at y diwydiant gofal.

Yn dilyn y cwrs hwn, gallech symud ymlaen i Ddiploma Lefel 3 CACHE NCFE mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion.

Ar y lefel hon dylech fod wedi cwblhau:

4 x TGAU gradd D ac uwch, neu Ddiploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol – Gofal Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu Gwrs ESOL Lefel 1. Rhaid i ddysgwyr allu bodloni gofynion y deilliannau dysgu a meddu ar y sgiliau llythrennedd a rhifedd priodol sydd eu hangen i gwblhau'r cwrs. Os nad oes gennych y cymwysterau uchod ond eich bod â phrofiad ym maes addysg, gallwn drafod eich opsiynau yn ystod y cyfweliad mynediad.

Byddwn yn egluro hyn yn ystod cyfweliad mynediad ar gyfer Cymorth Addysgu a Dysgu Lefel 2 er mwyn sicrhau eich bod ar y cwrs addas.

Bydd rhaid i bob dysgwr gael gwiriad DBS boddhaol.

Dysgu ac Addysg

Digwyddiadau i ddod

Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy